Psalms 63

Hiraeth am Dduw

Salm gan Dafydd, pan oedd yn anialwch Jwda. a

1O Dduw, ti ydy fy Nuw i!
Dw i wir yn dy geisio di.
Mae fy enaid yn sychedu amdanat.
Mae fy nghorff yn dyheu amdanat,
fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr.
2Ydw, dw i wedi dy weld di yn y cysegr,
a gweld dy rym a dy ysblander!
3Profi dy ffyddlondeb di ydy'r peth gorau am fywyd,
ac mae fy ngwefusau'n dy foli di!
4Dw i'n mynd i dy foli fel yma am weddill fy mywyd;
codi fy nwylo mewn gweddi, a galw ar dy enw.
5Dw i wedi fy modloni'n llwyr, fel ar ôl bwyta gwledd!
Dw i'n canu mawl i ti â gwefusau llawen.
6Dw i'n meddwl amdanat wrth orwedd ar fy ngwely,
ac yn myfyrio arnat ti yng nghanol y nos;
7Dw i'n cofio fel y gwnest ti fy helpu –
ron i'n gorfoleddu,
yn saff dan gysgod dy adenydd.
8Dw i am lynu'n dynn wrthot ti;
dy law gref di sy'n fy nghynnal i.
9Bydd y rhai sy'n ceisio fy lladd i
yn mynd i lawr yn ddwfn i'r ddaear.
10Bydd y rhai sydd am fy nharo gyda'r cleddyf
yn cael eu gadael yn fwyd i siacaliaid.
11Ond bydd y brenin yn dathlu beth wnaeth Duw.
Bydd pawb sy'n tyngu llw iddo yn gorfoleddu,
pan fydd e'n cau cegau y rhai celwyddog!
Copyright information for CYM